Capel Jerusalem

Dyma y Capel mwyaf yn yr ardal.  Adeiladwyd ef yn y flwyddyn 1842.  Caed y tir ar les am ddeng mlynedd ar hugain gan E. G. Douglas Pennant, Castell Penrhyn.  Hen gors wlyb a diffaith oedd y lle i ddechrau, a bu ugeiniau o'r aelodau yn gweithio o amgylch y lle am ddim i'w arloesi a'i sychu.  Bu cyfnod pan oedd y gwaith yma yn mynd ymlaen pan oedd y chwarelwyr yn gweithio rhan amser ac felly yr oeddynt yn gallu rhoi mwy o'u hamser i weithio ar safle y Capel.

Y Capel cyntaf gan y Methodistiaid Calfinaidd oedd Capel yr Achub yn agos i safle Capel Carmel yn awr, yna yn 1816 penderfynwyd i adeiladu Capel y Carneddi a chafwyd prydles o 100 mlynedd ar y tir.  Aeth y Capel yma yn rhy fychan a phenderfynwyd cael Capel yng nghanol y pentref a dyna paham lleoliad Capel Jerusalem.

Symudodd 195 o aelodau yma o'r Carneddi ar y cychwyn.  Y ddau mwyaf blaenllaw yn y symudiad oedd Owen Jones, Blaenor ac Evan Edwards, Bethesda.  Cafwyd prydles ar y tir gan stad y Penrhyn am 30 mlynedd.  Darparwyd y cynlluniau ac arolygwyd y gwaith gan Mr Richard Davies arch-adeiladydd, Bangor.  Fe gostiodd y Capel - ty Capel, Ystabl a "Coach House" y swm o £3,100.00, yr oedd yn bwysig cael ystabl gan mai ar gefn ceffyl neu gerdded y byddai'r Pregethwyr yn dod i'w cyhoeddiadau.  Nid oedd y tren wedi cyrraedd Bangor ar y pryd hynny.

Yr oedd lle i 950 eistedd yn gyffyrddus.  O flaen y set fawr mae sedd arall a elwir yn sedd gron, ond enw gwreiddiol oedd set ganu - dyma lle byddai'r cor a hefyd y gerddorfa yn ystod y gwasanaeth.

Yn 1905 prynwyd organ o Huddersfield Town Hall ond bu llawer iawn o drafod cyn gwneud y penderfyniad i ddod a'r organ i gymeryd lle'r gerddorfa.  Sinema Organ oedd hi a bu raid gwneud gwaith mawr i'w addasu ar gyfer caniadaeth y cysegr.  Mae yr organ bron yn 130 oed ac mewn cyflwr da.  Pan archwiliwyd yr organ ddiwethaf dywedodd yr archwilydd y dylem yswirio i fwy na £100,000.00.  Mae y Capel hwn wedi cael 11 o Weinidogion.  Y Pregethwr cyntaf i ofalu am yr Eglwys oedd  Y Parch Morris Jones.  Yr oedd hefyd yn gweithio yn y chwarel, adnabyddid ef fel "Yr Hen Broffwyd".  Pan yn mynd i bregethu unwaith i Gaergybi ac yn cael ei gario yn y goits fawr bu i'r gyrrwr aros yn y ty tafarn cyn croesi y bont a phenderfynodd Morris Jones gerdded dros y bont a disgwyl ym mhen draw y tro drwg oedd ar ol gadael y bont.  Dyma glywed swn y cerbyd yn dod ac yn y tro bu i'r cerbyd droi drosodd gan daflu y teithwyr allan.  Yr oedd Morris Jones yn meddwl y byddai rhywbeth fel hyn yn digwydd ar ol ir gyrrwr gael gormod i'w yfed.

Gweinidogion Jerusalem

 Y Parch. Morris Jones **** - 1860
 Y Parch. Josiah Thomas, M.A. 1860 - 1863
 Y Parch. John Griffiths 1863 - 1866
 Y Parch. Thomas Roberts 1866 - 1899
 Y Parch. William Richard Owen, B.A. 1905 - 1914
 Y Parch. Alun Tudor Jones 1917 - 1932
 Y Parch. Thomas Arthur Jones, B.A. 1933 - 1940
 Y Parch. Isaac Parry 1945 - 1950
 Y Parch. Griffith Parry 1951 - 1961
 Y Parch. Thomas John Hughes, B.A. 1963 - 1970
 Y Parch. John Owen 1972 - 1996
 Y Parch Geraint Rhys Hughes 1997 - Presenol

Gweinidogion Carneddi

 Y Parch. Robert Roberts 1863 - 1875
 Y Parch. Griffith Roberts 1876 - 1896
 Y Parch. J. T. Job 1898 - 1917
 Y Parch. H. H. Roberts 1921 - 1927
 Y Parch. Hywel Jones 1929 - 1935
 Y Parch. John Roberts 1938 - 1944
 Y Parch. Robert Hughes 1945 - 1964
 Y Parch. John Owen 1966 - 1993