Proffil/Hanes y Parch Geraint Hughes

Brodor o Benmaen-mawr yw’r Parchg Geraint Rhys Hughes. Daeth yn Gristion pan yn 18 mlwydd  a chyflwynodd ei hun fel ymgeisydd i’r weinidogaeth ymhlith yr Annibynwyr. Wedi treulio pedair blynedd yng Ngholeg Bala-Bangor ordeiniwyd ef yn Eglwysi Ebeneser, Llangynog; Bryn y groes, Maengwynedd; Y Tabernacl, Llanrhaeadr ym Mochnant a Bethania Pen-y-bont-fawr, Sir Drefaldwyn yn 1971. Wedi pum mlynedd yn ei ofalaeth gyntaf derbyniodd wahoddiad i weinidogaethu yn Sir Gaerfyrddin yn Eglwysi Mynydd Sïon, Pen y Groes a Milo, ger Llandybie. Yna, wedi deng mlynedd yno symudodd i Ebeneser, Abererch a Siloh, Chwilog. Ym 1997 sefydlwyd ef yn  Weinidog Bro yn Nyffryn Ogwen. Y mae’n briod ac Anne ers 38 mlynedd ac y mae ganddynt dau o blant : Gareth sy’n briod a Carys ac y mae ganddynt dri o blant, Cara, Huw ac Alfie; Rebeca sy’n briod a Barry ac y mae ganddynt ddau o blant, Lisa a Carwyn.

.

.

.

.